Cyhoeddiadau Tai Pawb

Mae Tai Pawb wedi cynhyrchu nifer o adnoddau a phecynnau cymorth er mwyn helpu sefydliadau tai i ymgorffori cydraddoldeb i mewn i’w ymarferion, eu polisiau, eu diwylliannau a’u meddylfryd.

Pecyn Cymorth Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar gyfer y Sector Tai Cymdeithasol yng Nghymru

Posteri Nodweddion Gwarchodedig

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb Categoriau Model

Taflenni Gwybodaeth Sector Breifat

Pecynnau Cymorth Tystiolaeth o Ganlyniadau Cyfartal Tai Pawb

Rhannu eich Adnoddau

Gall aelodau rannu eu hadnoddau ymysg ei gilydd drwy’r grŵp Yammer Rhwydwaith Cydraddoldeb Tai Cymru (WHEN). Cliciwch yma i ymuno â’r grŵp. Cysylltwch â ni os oes angen help arnoch i ymuno â Yammer 029 2053 7630.

Information

Accessing Members Resources

Mae rhai adnoddau ar gyfer aelodau Tai Pawb yn unig a bydd angen cyfrinair arnoch i gael gafael arnynt. Os ydych chi’n aelod o Tai Pawb ac wedi anghofio’ch cyfrinair neu os hoffech chi gael copïau o’r dogfennau mewn Word neu fformat arall, mae croeso i chi gysylltu â helpline@taipawb.org /012602920 537630

Rydym wedi cynhyrchu posteri nodweddion gwarchodedig ar gyfer aelodau Tai Pawb. Mae’r posteri yn offeryn defnyddiol er mwyn atgoffa staff ynghylch beth yn union yw’r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i bromtio cwestiynau ac i godi ymwybyddiaeth o linell cymorth aelodau Tai Pawb:

Rydym wedi datblygu nifer o offerynau i helpu rhai sy’n gweithio yn y sector tai cymdeithasol i gynnal Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb (EIAs):

Rydym wedi cynhyrchu ffurflenni monitro cydraddoldeb categoriau modern ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, staff ac aelodau bwrdd. Mae gan fersiwn o’r ffurflen defnyddwyr gwasanaeth nodiadau canllaw er mwyn eich helpu chi i ddeall pam ein bod ni’n argymell defnydd cwestiynau a chategoriau penodol ar gyfer ffurflenni monitro cydraddoldeb.  Mae’n cynnwys dolenni i ddata cenedlaethol a lleol lle mae modd i chi gymharu eich data. (e.e. Cyfrifiad 2011). Er ein bod ni’n defnyddio’r ffurflen ‘Defnyddwyr Gwasanaeth’ fel engrhaifft mae rhai rhannau’r o’r canllawiau yn berthnasol i bob un o’n ffurflenni model.

 

Mae’r categoriau caiff eu hargymell yn debygol o newid dros amser yn unol â ymarfer gorau a byddwn yn diweddaru’r ddogfen hon ar sail hynny. I wneud yn siŵr bod gennych y fersiwn diweddaraf cysylltwch â ni ar 02920537630 neu anfon neges e-bost at helpline@taipawb.org

Rydym wedi cynhyrchu taflenni gwybodaeth ar gyfer landlordiaid y sector breifat ynghylch eu oblygiadau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae un o’r taflenni yn darparu gwybodaeth ar nodweddion gwarchodedig a’r mathau o wahaniaethu sy’n waharddedig tra bod yr un arall yn canolbwyntio ar addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl.

 

Rydym wedi cynhyrchu nifer o becynnau cymorth sy’n gallu helpu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gynnal hunanwerthusiadau ac sydd eisiau archwilio eu perfformiad ar gydraddoldeb.

 

Mae’r canllaw ymarfer gorau hwn yn darparu gwybodaeth ar ddefnyddio’r broses caffael er mwyn ymgorffori cydraddoldeb a chyflwyno buddianau cymdeithasol a cymunedol. Cafodd y canllaw hwn ei gynhyrchu gan Tai Pawb mewn partneriaith gyda Inform 2 Involve, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Chyfreithwyr Morgan Cole.

Amcan y diweddariad hwn yw darparu’r wybodaeth ddiweddaraf, canllawiau ac enghreifftiau o ymarfer da ar droseddau casineb a thai i landlordiaid cymdeithasol a phartneriaid. Gall swyddogion tai sy’n gyfrifol am ddelio â throsedd casineb, rheolwyr, contractwyr a staff eraill ddefnyddio’r diweddariad hwn.

Amcan y fframwaith hwn yw cefnogi cymdeithasau tai o ran amrywiaeth y bwrdd a chodi ymwybyddiaeth o’r hyn y gall byrddau ei wneud i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’r fframwaith yn  ategu’r cynllun Come on Board. Mae’r fframwaith hwn yn ganlyniad i o uno nifer o sefydliadau cydraddoldeb a trydydd sector Cymraeg. Mae’r fframwaith yn rhestru’r modd y gall pob sefydliad gefnogi eich cymdeithas tai chi.

Information

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gyhoeddiad Tai Pawb, angen unrhyw un o’r dogfennau mewn fformat gwahanol neu os oes gennych chi syniadau eraill am adnoddau eraill byddai modd i ni gynhyrchu i’ch helpu gyda’ch gwaith, mae croeso i chi gysylltu â helpline@taipawb.org  029 2053 7630.