Deddf Cydraddoldeb 2010

Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r darn allweddol o ddeddfwriaeth mae angen i sefydliadau yng Nghymru fod yn ymwybodol ohono.

Mae rhwymedigaethau cyfreithiol ar Gymdeithasau Tai (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig), Awdurdodau Lleol, contractwyr a darparwyr cymorth o dan y Ddeddf fel cyflogwyr ac fel darparwyr nwyddau a gwasanaethau. Bydd y rhwymedigaethau hyn ychydig yn wahanol i bawb yn dibynnu ar ba fath o sefydliad ydych chi (mwy am hyn yn nes ymlaen!)

Beth yw goblygiadau’r Ddeddf Cydraddoldeb ym maes tai?

Sut mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn berthnasol ym maes tai?

Pa fathau o wahaniaethu ddylech chi fod yn ymwybodol ohonynt?

Llinell Gymorth i Aelodau

helpline@taipawb.org

029 2053 7635

Information

Cael Gafael ar Adnoddau i Aelodau

Mae rhai adnoddau ar gyfer aelodau Tai Pawb yn unig a bydd angen cyfrinair arnoch i gael gafael arnynt. Os ydych chi’n aelod o Tai Pawb ac wedi anghofio’ch cyfrinair neu os hoffech chi gael copïau o’r dogfennau mewn Word neu fformat arall, mae croeso i chi gysylltu â helpline@taipawb.org 029 2053 7630.

Nodweddion Gwarchodedig

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud pwy sydd wedi’u gwarchod rhag cael eu camwahaniaethu. Caiff y rhain eu galw’n grwpiau gwarchodedig neu’n nodweddion gwarchodedig.

The protected characteristics identified under the Equality Act are:

This refers to a person belonging to a particular age (e.g. 32 year olds) or range of ages (e.g. 18 – 30 year olds). The protected characteristic Age is not covered by Part 4: Premises within the Act.

 

A person is defined in the legislation as having a disability if they have a physical or mental impairment which has a substantial and long-term adverse effect on that person’s ability to carry out normal day-to-day activities.

This refers to the process of transitioning from one gender to another (from male to female or female to male) and falls under the equality strand described as gender identity.

Marriage is defined as a formal union between a man and a woman or two people of the same sex. Same-sex couples can additionally have their relationships legally recognized as ‘civil partnerships’. Civil partners must be treated the same as married couples on most legal matters. The protected characteristic Marriage and Civil Partnerships is not covered by Part 4: Premises within the act.

Pregnancy is the condition of being pregnant or expecting a baby. Maternity refers to the period after the birth, and is linked to maternity leave in the employment context. In the non-work context, protection against maternity discrimination is for 26 weeks after giving birth, and this includes treating a woman unfavourably because she is breastfeeding.

In legislation it refers to a group of people defined by their race, colour, nationality (including citizenship), ethnic or national origins.

Religion has the meaning usually given to it but belief includes religious and philosophical beliefs including lack of belief (e.g. Atheism). Generally, a belief should affect your life choices or the way you live for it to be included in the definition.

 

This refers to a man or a woman.

Refers to whether a person’s sexual attraction is towards their own sex, the opposite sex or to both sexes. Although in legislation it is defined as a person’s sexual attraction, sexual orientation is a combination of emotional, romantic, sexual or affectionate attraction to another person.

 

Information

Posteri Nodweddion Gwarchodedig

Mae Tai Pawb wedi cynhyrchu posteri nodweddion gwarchodedig ar gyfer ei aelodau. Mae’r posteri’n atgoffa staff beth yw’r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, er mwyn ysgogi cwestiynau a chodi ymwybyddiaeth ymysg y staff o’n llinell gymorth i aelodau:

Gwahaniaethu

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 cydnabod bod sawl math gwahanol o wahaniaethu. Gall y rhain ddigwydd mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae adran ar wefan Cyngor Ar Bopeth sy’n rhoi sylw i Wahaniaethu ym maes Tai.

Dyma'r pedwar prif fath o wahaniaeth fel a nodir yn y Ddeddf:

Gwahaniaethu Uniongyrchol

Gwahaniaethu Anuniongyrchol

Aflonyddu

Erledigaeth

Prif fathau o wahaniaethu

Gwahaniaethu Uniongyrchol yw pan fydd person yn cael ei drin yn llai ffafriol/yn waeth oherwydd nodwedd warchodedig.

Er enghraifft, byddai gwrthod rhoi cyngor i rywun am dai oherwydd ei gyfeiriadedd rhywiol yn wahaniaethu uniongyrchol

Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd darparwr gwasanaeth neu gyflogwr yn gweithredu polisi, rheol neu ffordd o wneud rhywbeth sy’n cael effaith negyddol ar rywun â nodwedd warchodedig o’i gymharu â rhywun arall sydd heb (lle na ellir cyfiawnhau hynny’n wrthrychol).

Enghraifft o hyn fyddai cymdeithas dai sydd â pholisi o atgoffa ymgeiswyr am denantiaeth o apwyntiadau dros y ffôn. Mae hynny’n rhoi pobl fyddar sy’n methu â defnyddio ffôn dan anfantais oherwydd dydyn nhw ddim yn cael eu hatgoffa am eu hapwyntiad. Os na ellir cyfiawnhau hyn yn wrthrychol, yna gallai hyn gael ei ystyried yn wahaniaethu anuniongyrchol.

Aflonyddu (neu harasio) yw pan fydd rhywun yn ymddwyn mewn ffordd ddigroeso gyda’r bwriad neu’r effaith o fod yn ergyd i urddas rhywun neu ymddwyn yn elyniaethus, yn ddirmygus neu’n dramgwyddus tuag at rywun â nodwedd warchodedig Gall hyn hefyd fod o natur rywiol.

Er enghraifft, mae cwsmer mewn derbynfa yn digwydd clywed aelod o staff yn gwneud sylwadau hiliol. Aflonyddu yw hyn oherwydd ei fod yn creu amgylchedd bygythiol a dirmygus sy’n codi cywilydd ac mae’n ergyd i urddas y cwsmer.

Mae hyn yn golygu trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd eu bod wedi cymryd camau (neu o bosib yn mynd i gymryd camau) o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 neu os ydyn nhw’n cefnogi rhywun sy’n gwneud hynny.

Er enghraifft, rheolwr sy’n gwrthod ystyried rhywun am ddyrchafiad oherwydd bod y person hwnnw wedi rhoi tystiolaeth ar ran cydweithiwr a oedd wedi gwneud cwyn am wahaniaethu rhywiol anghyfreithlon.

Mae'r Ddeddf hefyd yn nodi'r canlynol:

Caiff pobl eu gwarchod rhag gwahaniaethu gan rywun sy’n tybio’n anghywir bod ganddyn nhw un o’r nodweddion gwarchodedig ac yn eu trin yn llai ffafriol/yn waeth oherwydd hynny.

Caiff pobl eu gwarchod rhag gwahaniaethu oherwydd eu cysylltiad â rhywun sydd â nodwedd warchodedig. Mae hyn yn cynnwys rhiant plentyn neu oedolyn anabl neu rywun sy’n gofalu am berson anabl.

Trin person anabl yn llai ffafriol oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’i anabledd a lle na ellir cyfiawnhau hyn.

Mae gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd yn ystyriaeth bwysig ar gyfer darparwyr tai os ydyn nhw’n cymryd camau gorfodi yn erbyn tenant.

Addasiadau Rhesymol

O dan y Ddeddf, mae dyletswydd ar ddarparwyr a chyflogwyr i wneud addasiadau lle bo angen ar gyfer pobl anabl.

Mae addasiadau rhesymol yn cynnwys gwneud newidiadau:

I’r ffordd y gwneir pethau

(Megis newid polisi)

I’r amgylchedd adeiledig

(megis gwneud newidiadau i strwythur adeilad er mwyn gwella mynediad)

I ddarparu cymhorthion a gwasanaethau ategol

(megis darparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch, dolen sain i gwsmeriaid â chymorth clyw, meddalwedd gyfrifiadurol arbenigol, neu staff cymorth ychwanegol wrth ddefnyddio gwasanaeth.)

Rydyn ni’n aml yn cael ymholiadau ar beth sy’n cael i ystyried yn rhesymol a phwy sy’n talu am addasiadau rhesymol. Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ganllawiau defnyddio ar ei wefan am y ddau gwestiwn hyn:

Tai a Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Y Ddeddf Cydraddoldeb a gyflwynodd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’r ddyletswydd yn gyfuniad o ddyletswyddau cyffredinol a phenodol. Mae’r ddyletswydd yn mynnu bod awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau o natur cyhoeddus yn cymryd agwedd rhagweithiol o ran atal gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin rhyngberthnasau da.

Mae'n rhaid i'r rheini sy'n destun y ddyletswydd gyffredinol, o dan adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ystyried y canlynol wrth gyflawni eu swyddogaethau:

1. Dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd o dan y Ddeddf hon;

Gwella cyfleoedd cydraddoldeb rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl sydd ddim;

Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl sydd ddim.

Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Rhaid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru roi sylw dyledus i’r ddyletswydd gyffredinol a’r dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru. Mae Awdurdodau Lleol yn gyrff rhestredig mewn perthynas â’r dyletswyddau penodol. Mae’r dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yn cynnwys:

 

  • Gosod amcanion cydraddoldeb
  • Cynlluniau cydraddoldeb strategol,
  • Ymgysylltu
  • Asesu effaith (asesiadau effaith ar gydraddoldeb)
  • Gwybodaeth am gydraddoldeb a gwybodaeth am gyflogaeth
  • Gwahaniaeth mewn tâl
  • Hyfforddi staff
  • Llunio adroddiadau blynyddol a chyhoeddi manylion perfformiad.

 

Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i holl adrannau a swyddogaethau Awdurdodau Lleol, yn cynnwys y gwasanaethau Tai a Digartrefedd.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi llunio’r canllawiau canlynol ar gyfer Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru:

Cymdeithasau Tai a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru wedi’u cynnwys o dan y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol mewn cysylltiad â’u swyddogaethau sydd o natur cyhoeddus (er enghraifft, dyrannu, rheoli a therfynu tai cymdeithasol). Mae hyn yn seiliedig ar achos arwyddocaol yn 2009 (Weaver yn erbyn London and Quadrant Housing Trust) a ddyfarnodd fod y darparwr tai dan sylw yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf Hawliau Dynol o safbwynt dyrannu, rheoli a therfynu tai cymdeithasol.

Nid yw Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gyrff a restrir o dan y dyletswyddau penodol yng Nghymru, felly nid oes rhaid iddyn nhw gydymffurfio â’r elfen hon o’r ddyletswydd.

Serch hynny, efallai byddai’n syniad da i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru daro golwg ar y ddyletswydd benodol i gael arweiniad ar y dulliau y gallen nhw eu defnyddio i ddangos eu bod yn cyflawni dyletswydd cydraddoldeb gyffredinol y sector cyhoeddus.

Codau Ymarfer a Chanllawiau Technegol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Wrth edrych ar faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, gwahaniaethu a thai, y dogfennau ategol allweddol ddylech chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw yw Codau Ymarfer a Chanllawiau Technegol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).

 

Mae gan Equality Advisory and Support Service wybodaeth ddefnyddiol ar ei wefan yn ogystal â llythyrau templed y gall pobl eu defnyddio os ydyn nhw’n dymuno gwneud cwyn am wahaniaethu.

Mae gan ACAS (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) amrywiol ganllawiau a chyhoeddiadau ar eu gwefan yn ymwneud â materion cydraddoldeb a chyflogaeth.

Hefyd, mae gan Cyngor ar Bopeth adran ar ei wefan sy’n delio â Gwahaniaethu ym maes Tai.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010, cysylltwch â:

Llinell Gymorth i Aelodau

Tai Pawb

helpline@taipawb.org

029 2053 7630

Sefydliadau sy’n gallu eich helpu os ydych chi’n wynebu gwahaniaethu neu aflonyddwch

Rydyn ni’n sefydliad sy’n gweithio’n uniongyrchol â darparwyr tai i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Yn anffodus, nid ydym yn gallu darparu cyngor ar wahaniaethu neu dai yn uniongyrchol i denantiaid, ymgeiswyr neu gyflogeion. Os ydych chi’n denant, yn ymgeisydd, yn ddefnyddiwr gwasanaeth neu’n gyflogai ac yn chwilio am gyngor ar gydraddoldeb neu dai, mae croeso i chi gysylltu â’r sefydliadau isod.

For Discrimination Related Advice

Gwefan: Equality Advisory and Support Service

Ffôn: 0808 800 0082

Ffôn Testun: 0808 800 0084

Gwefan : Llinell Gymorth ACAS (ar gyfer Materion yn ymwneud â Chyflogaeth)

Ffôn: 0300 123 1100,

Gwefan : Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Cyfeiriad: 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan : Cyngor ar Bopeth

Ffôn: 08444 77 20 20,

Race Equality First

Gwefan: Race Equality First
Cyfeiriad: Race Equality First, 1st Floor West, 113-116 Stryd Bute, Caerdydd, CF10 5EQ
Ffôn: 02920 486207
Ffacs: 02920 494419
E-bost: info@raceequalityfirst.org.uk
SEWREC – Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De-ddwyrain Cymru

Gwefan: SEWREC 
Cyfeiriad: SEWREC, St Davids House, 137 Commercial Street, Casnewydd, NP20 1LN
Ffôn:  01633 250 006
Ffacs: 01633 264 075
E-bost: info@sewrec.org.uk
SBREC – Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe

Gwefan: SBREC
Cyfeiriad
: SBREC, 3rd Floor Grove House, Grove Place, Abertawe, SA1 5DF
Ffôn:  01792 457035
Ffacs: 01792 459374
NEWREN – Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru
Cyfeiriad: NEWREN, Y Ganolfan Cydraddoldeb, Ffordd Bangor, Penmaenmawr, Conwy, LL34 6LF
Ffôn: 01492 622233
E-bost: info@nwren.org

Ar gyfer Cyngor sy'n ymwneud â Thai:

Gwefan: Shelter Cymru

Ffôn: 0845 075 5005

Gwefan: Tenatiaid Cymru

Ffôn:  01685 723922

E-bost: info@welshtenants.org.uk

Gwefan: Cyngor ar Bopeth

Ffôn: 08444 77 20 20

Information

Cofiwch mai dim ond er gwybodaeth yw’r deunydd yn yr adran hon. Nid yw’n gyfystyr â chyngor cyfreithiol. Nid yw Tai Pawb yn gyfrifol am gynnwys adnoddau allanol.